Sectorau
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
Mae cyfleusterau gwyddoniaeth ac ymchwil yn cynrychioli’r technoleg mwyaf blaenllaw ac - ynghyd â'r diwydiant niwclear - yn cynrychioli un o'r diwydiannau mwyaf rheoledig ar y blaned.
Mae gan Mona Group gysylltiad hir-dymor â nifer o sefydliadau gwyddonol. Mae'r rhain yn cynnwys CERN yng Ngenefa, y Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC), Prifysgol Southampton, Prifysgol Bangor a'r Ysgol Gwyddorau Eigion, a Choleg Menai.
Mae gan ein peirianwyr dylunio flynyddoedd lawer o brofiad mewn datrysiadau peirianyddol effeithiol ac addas i ofynion gwyddonol heriol. Rydym yn cefnogi ein gwasanaethau dylunio a ffabrigo gyda gwasanaeth arolygu a chynnal a chadw, yn ogystal â gwasanaethau profi llwyth ar gyfer ardystio a dilysu cynnyrch. Heb yr ardystiadau priodol, mae'n amhosibl cyflwyno dulliau a thechnegau arloesol i ddiwydiant mor reoledig. Gyda'n profiad, ein cymwysterau, a'n galluoedd modelu CAD 2D a 3D mewnol, mae gan Mona Group y cymwysterau a'r sgiliau i gynhyrchu ystod eang o brototeipiau, peiriannau prosesu ac offer codi pwrpasol i'r safonau priodol a derbyniol.
Mae cyfleusterau ymchwil gwyddonol yn aml yn cyflwyno gofynion codi a chario cymhleth, yn enwedig pan mae offer mawr a bregus. Mae Mona Group mewn safle cryf i ddarparu datrysiadau ar gyfer y codiadau anoddaf. Mae Mona Group wedi darparu craeniau ac offer codi arbenigol ar gyfer nifer o sefydliadau gwyddonol, gan gynnwys CERN yng Ngenefa lle gwnaethom ddarparu system codi, cario a storio gymhleth ar gyfer offer a ddefnyddir fel rhan o'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr.
Newyddion ac astudiaethau achos wedi'u tagio Gwyddoniaeth ac Ymchwil.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.