Newyddion
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
July 1 | 2021
Ar 13 Gorffennaf 2021 cafodd y teclyn codi pwrpasol 105 tunnell, a gafodd ei ddylunio a’i weithgynhyrchu gan Mona ar gyfer CERN – y cyfleuster Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear yn Geneva – ei ddefnyddio am y tro cyntaf.
Mae prosiect ATLAS yn arbrawf ymchwil yn y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr, a ddyluniwyd i chwilio am dystiolaeth o ddamcaniaethau datblygedig ym maes ffiseg gronynnau. Mae’r arbrawf yn cael ei gynnal mewn ogof danddaearol enfawr, ac mae’r caledwedd sydd ei hangen ar gyfer yr arbrawf, gan gynnwys y synwyryddion “Olwyn Fach Newydd”, yn gorfod cael ei chodi a’i thrin yn ofalus wrth ei gosod.
I hwyluso hyn, roedd Mona wedi dylunio a gweithgynhyrchu teclyn codi pwrpasol i godi, storio a chludo’r strwythur Olwyn Fach Newydd. Roeddem wrth ein bodd o glywed gan CERN bod yr olwyn gyntaf o’r ddwy wedi cael ei chodi a’i gostwng yn llwyddiannus i’r ogof arbrofol, sy’n garreg filltir arall yn y prosiect.
Gallwch weld arbrawf ATLAS yn fyw ar wefan CERN. Neu gwyliwch y fideo isod:
Olwyn Fach Newydd Prosiect ATLAS yn cael ei gostwng i’r ogof arbrofi
Darllenwch fwy o newyddion wedi'u tagio fel: Codi, Craeniau, Peirianneg, Gwyddoniaeth ac Ymchwil, Niwclear.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.
October 7 | 2025
Yma yn Mona Lifting, rydym yn paratoi ar gyfer Hydref prysur iawn! Rydym yn mynd â’n harbenigedd o Ogledd Cymru i ddigwyddiadau allweddol ym maes gweithgynhyrchu niwclear ledled y DU ac Ewrop. Fel cwmni sydd wedi’i wreiddio mewn arloesedd Cymreig […]
November 8 | 2024
Mae Mona Lifting yn falch o gyhoeddi y byddwn yn mynychu ac yn arddangos yn Nuclear Lifting 2024 ar Dachwedd 19 yn Manceinion. Cynhelir y digwyddiad gan Institution of Mechanical Engineers, ac mae’n dod â phobl broffesiynol sy’n gysylltiedig â […]
August 13 | 2024
Rydym yn falch o rannu bod Mona Lifting wedi ei ail-ardystio’n llwyddiannus i BS EN 1090 Dosbarth Gweithredu 3 (EXC 3) ac hefyd wedi cyrraedd cymhwysedd BS EN ISO 3834-3. Mae’r cymwysterau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i’r safonau […]