Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
Gan weithio ar draws y DU a thu hwnt ar gyfer ystod eang o gleientiaid mewn ystod eang o ddiwydiannau rydym yn aml yn ymgymryd â phrosiectau arbenigol neu heriol iawn. Rydym yn diweddaru'r dudalen hon yn rheolaidd i adlewyrchu amrywiaeth, ansawdd a phroffesiynoldeb ein gwaith o ddydd i ddydd.
Mae Mona Lifting wedi dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu a chomisiynu Daliwr System Lansio ac Adfer (LARS) fel rhan o brosiect ‘Deep Green’ DG500. Mae’r prosiect yn cynnwys barcud llanw sy’n hedfan dan y dŵr ar gyflymder o hyd at 20 knot […]
Cafodd Mona Lifting ei gontractio gan Magellan Aerospace i ddylunio, datblygu a gosod system drin i gludo adenydd awyrennau 18m o hyd drwy broses gemegol gymhleth ar eu safle. Cafodd y gwaith ei wneud dros gyfnod o 12 mis, ac […]
Mae Mona Lifting wedi ymgymryd â chontract cynnal a chadw Magnox i atgyweirio strwythur mewnol y Biblinell Gwasgedd Isel ar gyfer Gorsaf Bŵer Trydan Dŵr 30-megawat Maentwrog. Mae’r biblinell hon, sydd â diamedr nominal o 9.5 troedfedd (2.9m), yn cludo […]
Llwyddodd Mona gyda’i gais i ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod teclyn codi pwrpasol 105 tunnell i CERN, y cyfleuster Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, yn Geneva. Mae’r darn cymhleth yma o gyfarpar yn cael ei ddefnyddio i ddelio â strwythur Olwyn […]
Mae Mona Lifting wedi bod yn gweithio i James Fisher Nuclear ers mis Ebrill 2019, ac mae cynlluniau ar y gweill i osod nifer o beiriannau yn 2022. Roedd Winfrith yn orsaf bŵer niwclear a oedd yn defnyddio Adweithydd Dŵr […]
Cysylltodd Cavendish Nuclear â Mona yn gofyn am chwe chraen ar wahân ar gyfer Cyfleuster Ailbrosesu Niwclear Sellafield yn Cumbria, y Deyrnas Unedig. Roedd angen i’r craeniau gyflawni gwahanol ddyletswyddau cymorth a chynnal a chadw yn y Cyfleuster Cynnal a […]