Gwasanaethau

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

Gwasanaethau Peirianneg, Weldio a Ffabrigo Arbenigol

Adeiladau ffrâm dur, pontydd, tyrau, nenbontydd a phiblinellau

Mae gan Mona Group gyfleuster dylunio a pheirianneg mewnol profiadol ac amryddawn. Gallwn ddylunio, peiriannu a gweithgynhyrchu amrywiaeth o beiriannau, gan weithio mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys niwclear, ynni adnewyddadwy, seilwaith, y sector morol, rheilffyrdd a thrafnidiaeth, gweithgynhyrchu, a thrin dŵr.

Rydyn ni’n gwneud y rhan fwyaf o’n gwaith ffabrigo yn ein cyfleuster 17,000 troedfedd sgwâr yn Llangefni, Ynys Môn.

Mae ein meysydd gweithredu ac arbenigedd yn cynnwys – ond heb eu cyfyngu i:

  • Adeiladu modiwlaidd o ansawdd uchel gyda ffrâm ddur ar gyfer cleientiaid diwydiannol a masnachol
  • Platfformau mynediad
  • Crudiau
  • Pontydd – ffordd, rheilffordd, beicio a cherdded
  • Piblinellau
  • Tyrau radar, mastiau ffôn symudol a mastiau telathrebu
  • Tyrau a pheilonau ar gyfer tyrbinau gwynt
  • Tanciau a chynhyrchion tiwbaidd
  • Datrysiadau peirianyddol ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy
  • Datrysiadau peirianyddol ar gyfer y diwydiant niwclear
  • Craeniau, trawstiau taenu a thrawstiau gwrthbwyso – am ragor o wybodaeth, ewch i’n hadran craeniau
  • Weldio arbenigol

O’r cysyniad – gan ddefnyddio ein cyfleuster CAD 3D gyda Dadansoddiad Elfen Gyfyngedig (FEA) neu gyfrifiadau â llaw – hyd at ffabrigo, gosod a phrofi, mae Mona Group yn darparu gwasanaeth peirianneg cynhwysfawr.

Os oes gennych brosiect peirianneg neu ofyniad y byddech yn hoffi i ni gynorthwyo ag ef, cysylltwch â ni i’w drafod.

Weldio a phrofi

Mae Mona Group yn cynnig gwasanaethau weldio TIG, MIG, SAW ac MMA, yn ogystal â thorri plasma, gan weithio gyda dur carbon, dur gwrthstaen ac alwminiwm. Mae ein system rheoli cynhyrchu ffatri ar gyfer gweithgynhyrchu a weldio cydrannau dur strwythurol wedi'i hachredu i BS EN 1090 Dosbarth Gweithredu 3 a BS EN 3834-3. Mae ein gweithdrefnau weldio yn cydymffurfio â BS EN 15614, ac mae ein weldwyr cymwys yn bodloni'r safon BS EN 9606.

Gwasanaeth atebol ac y gellir ei olrhain

Mae ein prosesau rheoli mewnol wedi'u hachredu i Ardystiad ISO 9001 ar gyfer Rheoli Ansawdd, Ardystiad ISO 45001 ar gyfer Iechyd a Diogelwch, ac Ardystiad ISO 14001 ar gyfer Rheolaeth Amgylcheddol i leihau a chynnal ein heffaith amgylcheddol.

Ar gyfer y diwydiant niwclear, rydym yn gweithio i safonau LTQR (Ardystiad Ansawdd Oes) ar gyfer olrhain llawn o'r syniad cychwynnol hyd at y gosod; gyda phrofion annistrywiol ac arolygu weldio yn cael eu cynnal yn ôl yr angen. Mae ein gosodiadau fel arfer yn cael eu cynhyrchu i Raddau Ansawdd 2 i 4. Mae ein gwasanaethau dylunio peirianneg wedi eu cefnogi gan yswiriant indemniad proffesiynol gwerth £2m.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 06/11/2026 05:45:30.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales