Cynaladwyedd

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

Mona Group – Rhoi Rhywbeth yn Ôl

Buddsoddi yn ein pobl a'n cymuned

Mae ein gwreiddiau yng Ngogledd Cymru, ac rydym yn falch o allu cynnig cyflogaeth fedrus yn ein cymuned, tra'n cynnig ein hystod lawn o wasanaethau ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Mae Mona Group yn credu y dylai cwmni llwyddiannus roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned sydd wedi ei meithrin, ac rydym yn cefnogi nifer o grwpiau chwaraeon a chymunedol yng Ngwynedd ac Ynys Môn, gan gynnwys:

  • Clwb Pêl-Droed Llangefni
  • Clwb Rygbi Llangefni
  • Theatr Bach, Llangenfi
  • Clwb Bocsio Caergybi
  • Clwb Rygbi Bethesda
  • Clwb Criced Bethesda
  • Ffermwyr Ifanc Ynys Môn
  • Cit Tîm Pêl-Droed Segontium Rovers D13
  • Siacedi Tîm Pêl-Droed Groeslon D8

Rydym yn gwneud pwynt o weithio gyda chyflenwyr lleol lle bo hynny'n bosibl ar gyfer nwyddau a PPE.

Addysg a phrentisiaethau

Mae Mona Group yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai lle rydym yn cymryd rhan weithredol mewn cynlluniau addysg a phrentisiaethau; rydym bob amser yn barod i ymgymryd â myfyrwyr profiad gwaith. Ar hyn o bryd, mae Mona Group yn cyflogi 50 aelod o staff, gyda 15 ohonynt wedi dechrau fel prentisiaid, ac maent yn dal i ddatblygu o fewn y busnes hyd heddiw.

Rydym yn buddsoddi'n helaeth yn hyfforddiant parhaus ein personél, gan esblygu'n gyson ein hyfforddiant wrth i'n cwmni ehangu ac arallgyfeirio.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 19/09/2026 10:32:38.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales