Sectorau

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

Gwasanaethau Mona Group ar gyfer Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth

Systemau ffabrigo, peirianneg a chodi pwrpasol ar gyfer seilwaith rheilffyrdd a thrafnidiaeth

Mae Mona Group yn darparu gwasanaeth peirianneg a ffabrigo aml-sgiliau sy'n gallu dylunio a chreu seilwaith ochr ffordd ac ochr trac yn effeithlon ac yn arbenigol, gan gynnwys:

  • Pontydd cerdded
  • Pontydd ffyrdd / rheilffyrdd i safonau priffyrdd
  • Llwybrau cerdded a nenbontydd
  • Platfformau a throlïau cynnal a chadw
  • Rheiliau llaw, bariau haearn ac ysgolion
  • Ffabrigo, atgyweirio, a weldio fframiau a cholofnau arwyddion ffordd ar y safle
  • Adeiladau ffrâm ddur i safon BS EN 1090

Rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr, gan gynnwys modelu CAD 2D a 3D mewnol, ffabrigo, caenu, cludo a gosod. Rydym yn sicrhau bod ein cydrannau dur weldiedig, ein gweithgynhyrchu dur, a’n profion amod weldio i gyd yn bodloni'r safonau perthnasol cyfredol.

Rydym yn cynnig gwasanaeth chwythu ar y safle ac oddi ar y safle i safon SA21/2 BS EN ISO 8501, yn ogystal ag amrywiaeth o gaenau a gorchuddion gwrth-cyrydu sydd wedi’u cynllunio i ymestyn oes strwythurau dur. Rydym hefyd yn darparu gorchuddion ar gyfer llwybrau cerdded a lonydd, gan gynnwys caenau gwrthlithro, gwrth-ddringo a gwrth-fandal. Yn ogystal, rydym yn cynnig gwasanaeth arolygu a phrofi cynhwysfawr, gan gynnwys arolygu a phrofi weldiau, profion annistrywiol, a phrofi ac adrodd ar orchuddion.

Codi a chario

Yn ogystal â ffabrigo, mae gan Mona Group ddegawdau o brofiad ym mhob agwedd o godi. Rydym yn darparu cynllunio, arbenigedd, offer a phersonél ar gyfer symud gwrthrychau mawr, trwm neu anodd eu trin yn ddiogel, megis cydrannau strwythurol ar gyfer adeiladau neu bontydd.

O fewn y sector rheilffyrdd a threftadaeth, mae ein hadran craeniau yn gallu dylunio a gosod craeniau symudol uwchben sy’n addas ar gyfer adrannau cynnal a chadw tyniant. Rydym hefyd wedi ymgymryd â'r gwaith o ddylunio, adeiladu a gosod systemau codi locomotifau a stoc rheilffyrdd.

Ar gyfer gwaith safle, mae gan ein holl weithwyr safle Basbort Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch neu gymhwyster cyfatebol. Maent wedi’u hyfforddi i weithio mewn mannau cyfyng, gweithio ar uchder, ac maent yn dal trwyddedau amrywiol ar gyfer gweithredu peiriannau. Mae aelodau’r tîm rheoli wedi’u hyfforddi i safon IOSH, SSSTS, neu SMSTS i reoli a gweithio’n ddiogel, neu mae ganddynt gymwysterau Iechyd a Diogelwch NEBOSH.

Darllen Mwy

Newyddion ac astudiaethau achos wedi'u tagio Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 06/11/2026 15:04:37.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales