Gwasanaethau

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

Dylunio a Gosod Craeniau Uwchben

Craeniau pwrpasol ar gyfer gorsafoedd pŵer, cyfleusterau niwclear, ffatrïoedd, warysau a dociau

Mae Mona Group yn dylunio, gosod a chynnal ystod o graeniau uwchben sefydlog ar gyfer pob math o waith codi ar gyfer amrywiaeth eang o gwsmeriaid a sectorau.

Fel arfer, rydym yn dylunio a gosod craeniau ar gyfer codi llwythi ysgafn neu drwm yn ôl gofynion y cleient, ac rydym yn darparu'r mathau canlynol o graeniau:

  • Craeniau symudol uwchben (â llaw neu drydan), gyda gosodiad uchaf neu isaf, a thrawst sengl neu ddwbl
  • Trawstiau rhedfa / mono-rheiliau (math o graen sy'n symud yn yr echelinau X a Z yn unig)
  • Craeniau jib wedi'u gosod ar bost
  • Craeniau Jib wedi'u gosod ar wal
  • Craeniau jib cymalog
  • Craeniau nenbont ffrâm A

Mae gosodiadau arferol yn cynnwys:

  • Gorsafoedd pŵer
  • Y diwydiant niwclear, ar gyfer safleoedd gweithredol a datgomisiynu
  • Cynlluniau trydan dŵr ar raddfa fach
  • Dociau a marinas
  • Gweithfeydd gweithgynhyrchu / ffatrïoedd
  • Warysau

Os oes gennych angen am graen uwchben yr hoffech i ni eich cynorthwyo ag ef, cysylltwch â ni  i drafod.

Systemau rheoli

Gallwn gynghori ar a darparu ystod o systemau rheoli ar gyfer ein craeniau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Rheoli â llaw
  • Rheoli crog
  • Rheoli tandem
  • Rheoli o bell / radio
  • Rheoli PLC

Mae gan Mona Group arbenigedd sylweddol mewn craeniau sy'n cael eu gweithredu'n llwyr o bell / gyda chamerâu, lle mae angen diogelwch ychwanegol neu lle mae'r craen wedi'i leoli mewn amgylchedd garw neu beryglus. Rydym wedi cronni profiad sylweddol yn y diwydiant niwclear ac wedi darparu nifer o osodiadau’n llwyr o bell ar gyfer safleoedd niwclear gweithredol ac ar gyfer safleoedd sy'n cael eu datgomisiynu.

Cynnal a chadw ac atgyweirio

Rydym yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac atgyweirio llawn ar gyfer craeniau sefydlog a theithiol, gan gynnwys gwasanaeth galw allan i'r rhan fwyaf o’n cleientiaid. Rydym yn hapus i gynnal a chadw ac atgyweirio ein craeniau ein hunain a'r rhai a osodir gan gwmnïau eraill.

Arolygu a phrofi

Mae Mona Group hefyd yn darparu ystod lawn o wasanaethau ymgynghori ac arolygu a phrofi ar gyfer craeniau. Rydym yn darparu prawf cychwynnol ac arolygiad cyfnodol statudol yn unol â rheoliadau LOLER ar ein craeniau ein hunain ac ar graeniau a osodir gan gwmnïau eraill.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 19/09/2026 10:32:26.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales