Profiad
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
Mae Mona Lifting wedi bod yn gweithio i James Fisher Nuclear ers mis Ebrill 2019, ac mae cynlluniau ar y gweill i osod nifer o beiriannau yn 2022.
Roedd Winfrith yn orsaf bŵer niwclear a oedd yn defnyddio Adweithydd Dŵr Trwm sy’n Cynhyrchu Stêm (SGHWR). Cafodd safle Winfrith ei gau yn 1990, ac mae’n eiddo i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Magnox sy’n rheoli’r rhaglen ddatgomisiynu, ac mae nifer o gontractwyr yn gysylltiedig â’r gwaith.
Wrth weld bod angen cyfarpar codi arbenigol, cysylltodd James Fisher Nuclear â Mona. Dyfarnwyd y contract i ni wedyn i ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod craen teithio uwchben pwrpasol. Bydd y craen, a’r strwythurau cysylltiedig, yn cael eu defnyddio fel rhan o’r Prosiect Segmentu Craidd a fydd yn cynnwys datgymalu, pacio ac allgludo’r adweithydd craidd fel rhan o’r rhaglen ehangach i ddatgomisiynu ac adfer holl safle Winfrith.
Darllenwch fwy o astudiaethau achos wedi'u tagio fel: Codi, Craeniau, Niwclear.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.