Amdanom
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
Sefydlwyd Mona Group (fel Mona Lifting) yn 2005 gan Steven Jones, Robin Evans ac Anita Davies; gan ddod a dros 60 mlynedd o brofiad peirianneg a diwydiant i'r cwmni newydd gyda’i gilydd.
O'n gwreiddiau mewn offer codi, rydym wedi ehangu'n raddol ac erbyn hyn rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau codi, craen, peirianneg a gwasanaethau glanhau a chaenu chwyth diwydiannol ar draws ystod eang o sectorau, o niwclear ac ynni adnewyddadwy i seilwaith, y sector morol, rheilffyrdd a thrafnidiaeth, gweithgynhyrchu a thrin dŵr.
Rydym bellach yn meddiannu cyfleuster 17,000 troedfedd sgwâr pwrpasol yn Llangefni, Ynys Môn ac yn cyflogi 50 o staff llawn amser.
Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar ein gwerthoedd a'n hegwyddorion cadarn o gynnig gwasanaeth o ansawdd, cynhyrchion o ansawdd a diogelwch; a'n gallu i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol a fforddiadwy i broblemau peirianyddol anodd.
Ein hethos yw adeiladu ein busnes yn gyson ac yn gynaliadwy, gan gefnogi ein personél a sicrhau bod y safonau uchaf o ansawdd, gwasanaeth ac iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni. Ers ein sefydlu yn 2005, rydym wedi pasio llawer o gerrig milltir pwysig ac wedi darparu nifer o ddatrysiadau cymhleth ac arloesol i'n cleientiaid. Dyma rai o’n huchafbwyntiau hyd hyn:
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.
Daily Post October 2005
How Mona Lifting was formed in 2005.
Daily Post February 2015
Mona expands with a £75,000 loan from Finance Wales.