Gwasanaethau

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

Arbenigwyr Codi Trwm ac Offer Codi

Gwasanaethau codi, cynnal a chadw, profi, arolygu a llogi

Gan weithio ar draws y DU, mae gan Mona Group ddegawdau o brofiad ym mhob agwedd o’r busnes codi. Rydym yn darparu'r cynllunio, arbenigedd, offer a phersonél ar gyfer symud gwrthrychau mawr, trwm neu lletchwith yn ddiogel. Mae eitemau arferol a godir yn cynnwys generaduron, peiriannau a phaneli rheoli, neu gydrannau strwythurol ar gyfer adeiladau neu bontydd. Os gellir ei godi, yna’r tebygrwydd yw ein bod wedi ei godi!

Mae ein codiadau wedi'u cynllunio'n ofalus, yn cadw at holl ganllawiau'r diwydiant, ac yn cael eu gweithredu gan ein personél profiadol yn ôl asesiad risg manwl. Maent hefyd wedi'u cefnogi gan yswiriant indemniad proffesiynol gwerth £2m.

Os oes gennych chi ofyniad codi yr hoffech i ni gynorthwyo ag ef, cysylltwch â ni i drafod.

Dyfeisiau codi pwrpasol

Gyda'n hadran beirianneg fewnol mae Mona Group yn arbenigwyr mewn dylunio a gweithgynhyrchu dyfeisiau codi pwrpasol; gan gynnwys trawstiau codi, trawstiau taenu a thrawstiau gwrth-gydbwyso. Rydym hefyd yn gosod ac yn profi offer codi ar y safle ac yn gallu paratoi Asesiadau Risg a Datganiadau Dull gan gynnwys Cynlluniau Lifft sy'n cael eu cynhyrchu gan ein Personél Cymwys a Phrofiadol Priodol (SQEP) yn benodol i anghenion ein cleient. Rydym yn aelodau llawn LEEA.

Ymgynghori, cynnal a chadw, arolygu a phrofi

Mae Mona Group hefyd yn darparu ystod lawn o wasanaethau ymgynghori, cynnal a chadw offer codi a gwasanaethau arolygu a phrofi statudol. Rydym yn gweithio i gleientiaid o bob maint, boed ganddynt un safle neu lawer o safleoedd gyda channoedd o eitemau o offer codi. Bydd Mona Group yn archwilio ac yn profi i safonau LOLER (Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi), yn darparu cofrestr fanwl o offer ac yn sicrhau eich bod yn bodloni eich rhwymedigaeth statudol ar gyfer profion chwe misol.

Rydym yn darparu profion ac arolygiad o'r holl offer Gweithio ar Uchder; gan gynnwys harneisiau, rhaffau diogelwch a phwyntiau angori, ac rydym yn gweithio gyda gosodwyr cwrs rhaff uchel a nifer o dyrau hyfforddi gorsafoedd tân.

Gwerthu a llogi

Mae Mona Group hefyd yn darparu gwasanaeth gwerthu a llogi ar gyfer pob eitem o offer codi, gan gynnwys:

  • Slingiau webin
  • Slingiau crwn
  • Harneisiau diogelwch
  • Gefynnau
  • Trolïau trawst
  • Teclynnau codi cadwyn
  • Codwyr Genie
  • Nenbontydd
  • Crafangwyr bloc
  • Celloedd llwyth
  • Pwysau profi
  • Winshys

Mae'r holl offer a gyflenwir gennym ni – i'w logi neu brynu – o'r un ansawdd uchel ag yr ydym yn ei ddefnyddio ar gyfer ein gwaith codi ein hunain.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 19/06/2026 21:27:39.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales