Newyddion
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
May 1 | 2021
Llwyddodd Mona gyda’i gais i ddylunio a gweithgynhyrchu teclyn codi pwrpasol 105 tunnell i CERN, y cyfleuster Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, yn Geneva, y Swistir.
Mae’r darn cymhleth yma o gyfarpar yn cael ei ddefnyddio i ddelio ag Olwyn Fach Newydd (NSW) yr arbrawf ymchwil ATLAS yn y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr, a ddyluniwyd er mwyn chwilio am dystiolaeth o ddamcaniaethau datblygedig ym maes ffiseg gronynnau.
Mae’r teclyn codi gan Mona yn gynnyrch mawr a chymhleth sydd wedi cael ei ddyfeisio yn unol â gofynion llym. Mae’r teclyn ei hun yn rhyngweithio â’r NJD/NSW drwy bin canolog wedi’i weldio, yn gweithredu â goddefiannau geometreg tynn, ac wedi’i osod gan ddefnyddio cyfarpar arbenigol i dracio laser. Yna, bydd bachyn y craen yn cael ei ddefnyddio i godi’r teclyn gyda dau bin bachyn. Mae’r pinnau bachyn, yn eu tro, yn cael eu gosod mewn pâr o blatiau pin sy’n caniatáu addasiad llorweddol o 100mm ar gyfer lleoliad y pinnau os bydd angen, drwy bedwar addasydd pin. Mae llewys pin yn cynnal y pinnau bachyn pan fyddan nhw’n cael eu datgysylltu oddi wrth y teclyn, er mwyn gostwng bachyn y craen i’w osod yn ei le. Mae 20 gwrthbwys, pob un yn pwyso 200kg, yn cael eu gosod ar y trawst llorweddol er mwyn sicrhau bod y llwyth yn cael ei godi’n gytbwys.
Mae stand fertigol wedi’i gynnwys, a ddefnyddir i storio’r teclyn codi yn y safle fertigol. Mae gan y stand fertigol bwyntiau cysylltu addas i godi a diogelu’r teclyn codi wrth ei lwytho a’i gludo yn y safle llorweddol. Mae’r stand fertigol yn cynnwys pwynt cylchdroi er mwyn troi’r teclyn codi o’r safle llorweddol i’r safle fertigol, ac i’r gwrthwyneb.
Roedd Mona yn falch iawn o glywed ein bod wedi ennill y contract hwn ac wrth ein bodd yn cael cydweithio â sefydliad a phrosiect mor uchel ei broffil.
Darllenwch fwy o newyddion wedi'u tagio fel: Codi, Craeniau, Peirianneg, Gwyddoniaeth ac Ymchwil, Niwclear.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.
October 7 | 2025
Yma yn Mona Lifting, rydym yn paratoi ar gyfer Hydref prysur iawn! Rydym yn mynd â’n harbenigedd o Ogledd Cymru i ddigwyddiadau allweddol ym maes gweithgynhyrchu niwclear ledled y DU ac Ewrop. Fel cwmni sydd wedi’i wreiddio mewn arloesedd Cymreig […]
November 8 | 2024
Mae Mona Lifting yn falch o gyhoeddi y byddwn yn mynychu ac yn arddangos yn Nuclear Lifting 2024 ar Dachwedd 19 yn Manceinion. Cynhelir y digwyddiad gan Institution of Mechanical Engineers, ac mae’n dod â phobl broffesiynol sy’n gysylltiedig â […]
August 13 | 2024
Rydym yn falch o rannu bod Mona Lifting wedi ei ail-ardystio’n llwyddiannus i BS EN 1090 Dosbarth Gweithredu 3 (EXC 3) ac hefyd wedi cyrraedd cymhwysedd BS EN ISO 3834-3. Mae’r cymwysterau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i’r safonau […]