Sectorau
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
Mae Mona Group yn darparu gwasanaeth cyflawn ar gyfer codi adeiladau ffrâm ddur i gleientiaid amrywiol, gan gynnwys y sectorau pŵer hydro-electrig a gweithgynhyrchu. Rydym yn cynnig gwaith sylfaen, dylunio, ffabrigo a gosod y fframwaith adeiladu yn unol â BS EN 1090, gan sicrhau darpariaeth amserol hyd yn oed yn y lleoliadau mwyaf anghysbell.
Gall ein tîm dylunio a pheirianneg mewnol ddylunio a ffabrigo pob math o strwythurau dur ar gyfer prosiectau sifil mawr. Mae hyn yn cynnwys trawstiau pontydd ffyrdd a rheilffyrdd, pontydd cerdded a beicio, yn ogystal â llwybrau cerdded, nenbontydd a phlatfformau ar gyfer mynediad cynnal a chadw i bontydd, argaeau ac adeiladau. Rydym yn darparu gwasanaeth arolygu a chynnal a chadw parhaus ar gyfer cydrannau dur strwythurol, gan gynnwys arolygu a phrofi weldio, profi heb ddinistrio ac adrodd ar gaenau, yn ogystal â darparu gwasanaethau cynnal a chadw ar bontydd troi a gwrthbwys.
Yn ogystal â ffabrigo, mae gan Mona Group ddegawdau o brofiad ym mhob agwedd ar godi. Rydym yn darparu'r cynllunio, arbenigedd, offer a phersonél ar gyfer symud gwrthrychau mawr, trwm neu lletchwith yn ddiogel. Rydym yn gweithio'n rheolaidd ochr yn ochr â phrif gontractwyr mewn prosiectau peirianneg sifil mawr i ddarparu arbenigedd codi cydrannau strwythurol ar gyfer adeiladau neu bontydd, yn ogystal â darparu trawstiau a systemau codi i hwyluso arolygu arferol lifftiau a pheiriannau.
Mae ein codiadau wedi'u cynllunio'n ofalus, yn cadw at holl ganllawiau'r diwydiant, ac yn cael eu gweithredu gan ein personél profiadol yn ôl asesiad risg manwl. Maent hefyd wedi'u cefnogi gan yswiriant indemniad proffesiynol gwerth £2m.
Ar gyfer gwaith safle, mae gan holl weithwyr ein safle Basbort Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch neu gyfwerth; maent wedi'u hyfforddi i weithio mewn mannau cyfyng, gweithio ar uchder ac yn dal gwahanol drwyddedau gweithredu peiriannau. Mae'r tîm rheoli wedi'u hyfforddi i weithio a rheoli'n ddiogel gyda chymwysterau IOSH, SSSTS, SMSTS neu NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch.
Newyddion ac astudiaethau achos wedi'u tagio Peirianneg Sifil.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.