Profiad
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
Llwyddodd Mona gyda’i gais i ddylunio, gweithgynhyrchu a gosod teclyn codi pwrpasol 105 tunnell i CERN, y cyfleuster Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, yn Geneva.
Mae’r darn cymhleth yma o gyfarpar yn cael ei ddefnyddio i ddelio â strwythur Olwyn Fach Newydd arbrawf ymchwil ATLAS, sydd wedi’i ddylunio er mwyn chwilio am dystiolaeth o ddamcaniaethau datblygedig ym maes ffiseg gronynnau.
Mae 20 o wrthbwysau – pob un yn pwyso tua 260kg – yn cael eu gosod ar drawst llorweddol y teclyn i sicrhau bod y llwyth yn cael ei godi’n gytbwys, tra bo’r pin canolog sy’n rhyngweithio â’r olwyn ATLAS yn gweithio â goddefiannau geometrig tynn a’i osod gan ddefnyddio cyfarpar arbenigol i dracio laser.
Roedd Mona yn falch iawn o glywed ein bod wedi ennill y contract hwn ac wrth ein bodd yn cael cydweithio â sefydliad a phrosiect mor uchel ei broffil.
Darllenwch fwy o astudiaethau achos wedi'u tagio fel: Codi, Peirianneg, Gwyddoniaeth ac Ymchwil, Niwclear.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.