Profiad

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

Minesto, Daliwr System Lansio ac Adfer

Minesto, Barcud Morol mewn Daliwr System Lansio ac Adfer (LARS)

Mae Mona Lifting wedi dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu a chomisiynu Daliwr System Lansio ac Adfer (LARS) fel rhan o brosiect ‘Deep Green’ DG500.

Mae’r prosiect yn cynnwys barcud llanw sy’n hedfan dan y dŵr ar gyflymder o hyd at 20 knot ar draws y ffrwd lanw i gynhyrchu ynni gwyrdd. Mae cerbyd gwasanaeth yn dal tennyn cyswllt, sy’n sownd i sylfaen ar wely’r môr, i hwyluso’r broses o ddatgysylltu’r rhyngwyneb ar gyfer y barcud llanw. Mae’n ddyluniad cymhleth lle mae’r is-ffrâm yn llithro’n ôl ac ymlaen. Cafodd ei ddatblygu a’i weithgynhyrchu i alluogi’r ddyfais clampio i ddal y cysylltiad tennyn er mwyn ei gysylltu a’i ddatgysylltu. Cafodd y gydran ei chynhyrchu o ddur carbon gyda rhannau wedi’u peiriannu o ddur gwrthstaen. Mae’r gorchudd arwyneb o safon morol. Defnyddiwyd Interzone 954 a chafodd y gwaith yma ei wneud yn fewnol.

Cwblhawyd y prosiect ar gyfer Minesto yn 2018 a gallwch ddarllen mwy am brosiect Dyfnder Caergybi ar wefan Minesto.

Galeri Prosiect

Darllen Mwy

Darllenwch fwy o astudiaethau achos wedi'u tagio fel: Peirianneg, Ynni Adnewyddadwy.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 19/09/2026 11:30:12.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales