Profiad

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

Magnox, Atgyweirio Piblinell Gorsaf Bŵer Trydan Dŵr Maentwrog

Atgyweirio Piblinell Gorsaf Bŵer Trydan Dŵr Maentwrog gan Mona Lifting

Mae Mona Lifting wedi ymgymryd â chontract cynnal a chadw Magnox i atgyweirio strwythur mewnol y Biblinell Gwasgedd Isel ar gyfer Gorsaf Bŵer Trydan Dŵr 30-megawat Maentwrog.

Mae’r biblinell hon, sydd â diamedr nominal o 9.5 troedfedd (2.9m), yn cludo dŵr o Lyn Trawsfynydd i’r orsaf bŵer, lle mae’n gyrru dau dyrbin sy’n cynhyrchu digon o drydan yn ei dro i bweru tua 12,000 o gartrefi lleol bob blwyddyn.

Mae Mona Lifting wedi paratoi a weldio platiau atgyweirio i strwythur mewnol y biblinell, gan ddilyn gweithdrefnau achrededig BSEN15614 a defnyddio weldwyr cymwys i BSEN9606. Roeddem hefyd wedi rhoi 100% o’r weldiau newydd drwy brofion anninistriol.

Roedd yr holl bersonél yn gymwys i weithio mewn lle cyfyng, ac roeddent yn gweithio’n unol â dull a oedd yn cael ei fonitro’n llym. Cafodd tua 100m o biblinell ei hatgyweirio yn ystod yr ymgyrch hon.

Sefydlodd Mona Lifting system awyru lleol sy’n gwacáu mygdarth (LEV) o fewn yr ardal waith i amddiffyn yr holl weithwyr a oedd yn dod i mewn rhag mygdarth.

Galeri Prosiect

Darllen Mwy

Darllenwch fwy o astudiaethau achos wedi'u tagio fel: Peirianneg, Ynni Adnewyddadwy.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 06/11/2026 07:24:51.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales