Profiad
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
Bu Mona Lifting yn llwyddiannus yn ei gais i ddylunio, cynhyrchu a gosod Craen Uwchben Trydan ar gyfer CERN, Genefa.
Dyluniwyd a chynhyrchwyd y craen yn ein gweithdy yn Llangefni yn Ynys Môn cyn cynnal prawf trydanol a mecanyddol i sicrhau ei fod yn bodloni manyleb y cwsmer. Yna cludwyd y craen i Genefa yn y Swistir lle’r oedd peirianwyr comisiynu Mona Lifting ar y safle yn CERN yn ei ddisgwyl.
Cydlynwyd a chynhaliwyd y gwaith gosod dros gyfnod o ddau ddiwrnod. Rhoddwyd y craen ar nenbont wedi’i hadeiladu’n bwrpasol 30m yn is na lefel y ddaear. Comisiynwyd y craen a’i drosglwyddo i’r cwsmer yn brydlon ac o fewn y gyllideb.
Yr adborth gan dîm prosiect CERN:
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i longyfarch Mona Lifting ar y gwaith rhagorol a wnaed o’r cam dylunio i’r gwaith gosod ar y safle; er gwaetha holl gymhlethdodau CERN a phroblemau eraill nad oedd modd eu rhagweld (oedi a thywydd gwael ayb) llwyddoch i gwblhau’r prosiect a sicrhau ansawdd o lefel uchel. Mae ein cydweithwyr a minnau’n gobeithio’n fawr y byddwn yn cydweithio â chi eto yn y dyfodol!”
Darllenwch fwy o astudiaethau achos wedi'u tagio fel: Craeniau, Gwyddoniaeth ac Ymchwil, Niwclear.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.