Newyddion
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
February 15 | 2022
Ym mis Awst 2021 dyfarnwyd y contract i Mona Lifting i ddatgymalu ac adfer y Craen Scotch Derrick olaf o iardiau llongau hanesyddol Hull.
Cam cyntaf y broses oedd datgymalu’r craen yn ofalus ar y safle, a chludo’r rhannau yn ôl i’n safle. Cwblhawyd y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2021.
Gyda’r craen bellach yn ddiogel ym Mona Lifting mae’n bosibl dechrau’r gwaith adnewyddu. Bydd y gwaith adnewyddu’n gynhwysfawr, ond fe’i gwneir mewn ffordd fydd yn cadw nodweddion hanesyddol y craen. Tynnir haenau o baent oddi ar yr holl waith dur y gellir ei atgyweirio, ac yna bydd y rhannau’n cael eu glanhau a’u harchwilio’n weledol cyn gwneud unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol. Bydd rhai rhannau o’r craen na ellir eu hatgyweirio yn cael eu cynhyrchu gan Mona, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar luniadau CAD i ail-greu’r caban yn yr arddull a’r edrychiad gwreiddiol.
Rhan hanfodol o’r gwaith adnewyddu cyffredinol yw sicrhau bod y gorffeniad terfynol yn cyd-fynd â’r edrychiad gwreiddiol, ac rydym yn falch o gael ein cefnogi gan International Paints ar gyfer y dasg hon er mwyn dewis paent addas ar gyfer y craen.
Mae’n hanfodol bod cyswllt agos â chleientiaid wrth weithio ar ddarn mor unigryw a hanesyddol o graen diwydiannol, ac roedd yn bleser croesawu cynrychiolwyr o brosiect Morol Hull i’n safle ar 9 Chwefror i weld y gwaith a wnaed hyd yma.
Mae prosiect Morwrol Hull, a ariennir gan Gyngor Dinas Hull a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys ailddatblygu pum safle hanesyddol yng nghanol dinas Hull: trawsnewid Amgueddfa Forwrol Gradd II* Hull a Swyddfeydd y Dociau, creu atyniad newydd i ymwelwyr yn iard longau North End ac adfer dau gwch hanesyddol, Arctic Corsair a’r Spurn, sef llong dywys gyda golau arni.
Mae Mona yn falch o fod yn gweithio gyda’r sefydliadau canlynol ar adfer y craen hanesyddol hwn.
https://maritimehull.co.uk/about/consultants-partners https://beckettrankine.com/projects/ https://www.purcelluk.com/
Darllenwch fwy o newyddion wedi'u tagio fel: Peirianneg.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.
October 7 | 2025
Yma yn Mona Lifting, rydym yn paratoi ar gyfer Hydref prysur iawn! Rydym yn mynd â’n harbenigedd o Ogledd Cymru i ddigwyddiadau allweddol ym maes gweithgynhyrchu niwclear ledled y DU ac Ewrop. Fel cwmni sydd wedi’i wreiddio mewn arloesedd Cymreig […]
November 8 | 2024
Mae Mona Lifting yn falch o gyhoeddi y byddwn yn mynychu ac yn arddangos yn Nuclear Lifting 2024 ar Dachwedd 19 yn Manceinion. Cynhelir y digwyddiad gan Institution of Mechanical Engineers, ac mae’n dod â phobl broffesiynol sy’n gysylltiedig â […]
August 13 | 2024
Rydym yn falch o rannu bod Mona Lifting wedi ei ail-ardystio’n llwyddiannus i BS EN 1090 Dosbarth Gweithredu 3 (EXC 3) ac hefyd wedi cyrraedd cymhwysedd BS EN ISO 3834-3. Mae’r cymwysterau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i’r safonau […]