Newyddion

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

August 26 | 2021

Adfer Y Craen Scotch Derrick Olaf Yn Hull

Adfer Y Craen Scotch Derrick Olaf Yn Hull

Mae Mona Lifting yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill y contract i dynnu ac adfer y Craen Scotch Derrick olaf o iardiau llongau hanesyddol Hull.

Mae’r contract hwn yn cydnabod arbenigedd Mona Lifting o ran adfer arteffactau hanesyddol yn ofalus a’n harbenigedd mewn treftadaeth ddiwydiannol. Mae’r craen 18 tunnell, a elwir weithiau’n Stiff leg derrick, wedi’i leoli ar ochr ogleddol yr iard, ac mae’n cynrychioli 400 mlynedd o’r gwaith adeiladu llongau yn Hull. Bydd Mona Lifting yn tynnu’r craen yn adrannau, cyn ei gludo i ffwrdd i wneud y gwaith, gan sicrhau bod ei fanylion hanesyddol a’i arwyddocâd yn cael eu cadw.

Tybiwyd bod y craen wedi cael ei osod pan uwchraddiwyd yr hen lock pit i fod yn doc sych gwell ar ddiwedd y 1950au. Ac yntau bellach yn un o oroeswyr prin Afon Hull, mae’n adlewyrchu’r gwaith adeiladu llongau gweithredol a barhaodd yn yr ardal hon yn fwy diweddar.

Byddwn yn rhoi bywyd newydd i’r craen, diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Dinas Hull fel rhan o brosiect Morol Hull. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y darn hanesyddol yn dychwelyd i leoliad newydd ar ochr ogleddol y iard longau er mwyn i ymwelwyr allu ei werthfawrogi am flynyddoedd i ddod. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni fel rhan o gynlluniau uchelgeisiol i adfywio’r rhan hon o lan yr afon a chreu atyniad newydd i ymwelwyr ar gyfer y ddinas, gyda’r doc sych yn dod yn gartref parhaol i’r Arctic Corsair a chanolfan newydd i ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Daren Hale, Arweinydd Cyngor Dinas Hull: “Rydyn ni’n falch iawn o benodi Mona Lifting i atgyweirio ac adfer y craen segur hwn, gan alluogi iddo fod yn atyniad i ymwelwyr yn ei rinwedd ei hun. Mae’r craen Scotch Derrick, sy’n deillio’n ôl i’r 20fed ganrif, yn symbol allweddol o orffennol morol diweddar ac mae’n hanfodol ei fod yn cael ei gadw fel nodwedd treftadaeth.”

Bydd disgwyl i’r gwaith o dynnu’r craen 18 tunnell yn adrannau a’i symud ddechrau yn ystod y misoedd nesaf.

Argraff arlunydd o’r Ganolfan Ymwelwyr a’r Arctic Corsair

Argraff arlunydd o’r Ganolfan Ymwelwyr a’r Arctic Corsair

Gallwch ddarllen am gynnydd y prosiect a gwefan prosiect Morwrol Hull, a’r gwefan Cyngor Dinas Hull.

Darllen Mwy

Darllenwch fwy o newyddion wedi'u tagio fel: Peirianneg.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Negeseuon Diweddar

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 05/11/2026 22:40:36.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales