Newyddion
Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.
December 22 | 2021
Ym mis Awst 2021 dyfarnwyd y contract i Mona Lifting i ddatgymalu ac adfer y Craen Scotch Derrick olaf o iardiau llongau hanesyddol Hull. Mae gwaith ar y prosiect bellach ar y gweill.
Ar ôl gwneud y gwaith paratoi ar y safle, bydd y craen yn cael ei ddatgymalu’n ofalus yn ddarnau, a’i godi gan graen symudol ar lorïau cyn ei gludo i safle Mona i’w atgyweirio a’i adfer yn ofalus. Bydd unrhyw olion cyrydu’n cael eu trin drwy broses sgwrio bwrpasol, a bydd yn cael ei adfer drwy ddefnyddio technegau rhybedu a chysylltu traddodiadol i gynnal golwg wreiddiol a chymeriad hanesyddol y craen. Yn olaf, bydd yr holl eitemau metel yn cael eu hail-beintio gyda phaent epoxy pwrpasol mewn lliwiau sy’n cyfateb yn ofalus i’r rhai gwreiddiol.
Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y craen yn dychwelyd i leoliad newydd yn iard North End, a fydd hefyd yn gartref newydd i’r Arctic Corsair; treillong y dyfnfor a adeiladwyd yn y 1960au a addaswyd i long amgueddfa yn 1999. Bydd canolfan ymwelwyr newydd yn cwblhau’r gwaith o adfywio’r rhan hon o lannau’r afon, a gyda’i gilydd byddant yn darparu atyniad newydd i ymwelwyr ar gyfer y ddinas.
Meddai’r Cynghorydd Daren Hale, Deilydd Portffolio ar gyfer Buddsoddi Economaidd, Adfywio a Chynllunio, Tir ac Eiddo: “Mae’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar graen Scotch Derrick olaf y ddinas. Mae’r craen hwn wedi’i ddiogelu, drwy waith adfer ac ailadeiladu bydd yn cael bywyd newydd fel y gall ymwelwyr werthfawrogi ei hanes, ei arwyddocâd a’i stori.”
Meddai Gethin Jones o Mona Lifting: “Rydym yn falch ac mae’n anrhydedd cael ein dewis i wneud y gwaith diddorol a hynod dechnegol hwn.”
Disgwylir i’r gwaith o atgyweirio’r craen gymryd chwe mis i’w gwblhau.
Mae prosiect Morwrol Hull, a ariennir gan Gyngor Dinas Hull a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys ailddatblygu pum safle hanesyddol yng nghanol dinas Hull: trawsnewid Amgueddfa Forwrol Gradd II* Hull a Swyddfeydd y Dociau, creu atyniad newydd i ymwelwyr yn iard longau North End ac adfer dau gwch hanesyddol, Arctic Corsair a’r Spurn, sef llong dywys gyda golau arni.
Gwyliwch fideo’n dangos y craen yn cael ei ddatgymalu:
Darllenwch fwy o newyddion wedi'u tagio fel: Peirianneg.
Eich e-bost
Enw cyntaf
Cyfenw
Eich neges
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr e-bost
Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.
October 7 | 2025
Yma yn Mona Lifting, rydym yn paratoi ar gyfer Hydref prysur iawn! Rydym yn mynd â’n harbenigedd o Ogledd Cymru i ddigwyddiadau allweddol ym maes gweithgynhyrchu niwclear ledled y DU ac Ewrop. Fel cwmni sydd wedi’i wreiddio mewn arloesedd Cymreig […]
November 8 | 2024
Mae Mona Lifting yn falch o gyhoeddi y byddwn yn mynychu ac yn arddangos yn Nuclear Lifting 2024 ar Dachwedd 19 yn Manceinion. Cynhelir y digwyddiad gan Institution of Mechanical Engineers, ac mae’n dod â phobl broffesiynol sy’n gysylltiedig â […]
August 13 | 2024
Rydym yn falch o rannu bod Mona Lifting wedi ei ail-ardystio’n llwyddiannus i BS EN 1090 Dosbarth Gweithredu 3 (EXC 3) ac hefyd wedi cyrraedd cymhwysedd BS EN ISO 3834-3. Mae’r cymwysterau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i’r safonau […]