Newyddion

Mae Mona Group yn gwmni peirianneg amlddisgyblaeth sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau arbenigol ar gyfer ystod eang o sectorau diwydiant.

Gwaith Tîm
Rhagoriaeth
Ymroddiad
Proffesiynoldeb

August 24 | 2021

Craeniau Cludo Ar Gyfer Safle Trin Adenydd Magellan Aerospace

Craeniau Cludo Ar Gyfer Safle Trin Adenydd Magellan Aerospace

Mae Mona Lifting wedi dylunio, datblygu a gosod system drin i gludo darnau o adenydd 18m o hyd drwy broses gemegol gymhleth ar Safle Trin Adenydd Magellan Aerospace.

Mae’r gosodiad yn cynnwys un craen 10 tunnell i’w llwytho i mewn, un craen cludo 10 tunnell gydag offer gweithredu awtomatig a mastiau canllawiau llwythi, ac un craen 10 tunnell i’w llwytho allan. Ar ben hynny, cafodd trawstiau codi penodol gyda standiau cynnal a bariau cludo cerrynt trydanol eu dylunio a’u gweithgynhyrchu ar gyfer cludo’r adenydd a chefnogi’r gydran yn y tanciau cemegol.

Cafodd y gwaith ei gyflawni dros gyfnod o 12 mis, ac roedd y gwaith gosod yn arbennig o heriol oherwydd prinder lle i weithio a gofynion codi trwm.

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.

Darllen Mwy

Darllenwch fwy o newyddion wedi'u tagio fel: Craeniau, Awyrofod.

Ymolwch am ein gwasanaethau





    Eich Preifatrwydd: Byddwn yn defnyddio eich manylion i ymateb i'ch ymholiad yn unig. Mae unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu'n unol â'n polisi preifatrwydd.

    Negeseuon Diweddar

    Argraffwyd o www.monagroup.wales ar 06/11/2026 14:54:31.

    Mona Lifting Ltd, Uned 5, Parc Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA

    Ffôn: 01248 751300
    E-bost: info@monagroup.wales